Fe'ch gwahoddir i fynychu yn ein Sioe Deithiol Ranbarthol yng Nghaerdydd, Cymru
Gwesty Mercure Gogledd Caerdydd
Dydd Iau 9fed o Mis Mai 2024
10.30yb - 4.00yp
Mae’n bleser gennyf eich gwahodd i’n Sioe Deithiol Ranbarthol, yr ail o’n cyfres o ddigwyddiadau ar ein wedd newydd, yr un hon sy’n cael ei chynnal yng Nghaerdydd.
Os ydych chi'n byw gydag MND, yn ofalwr, yn aelod o'r Gymdeithas neu'n wirfoddolwr Cymdeithas, byddem wrth ein bodd os allwch ymuno â ni i ddarganfod mwy am y cymorth sydd ar gael i chi, i siarad â ni am yr hyn yr hoffech ei gael gan y Gymdeithas, ac, yn bwysig, i gwrdd â phobl eraill o'r gymuned MND.
Gallwch ofyn cwestiynau a chlywed mwy am ein gwaith yn uniongyrchol oddi wrthaf i, aelodau o Dîm Arwain Gweithredol y Gymdeithas a’n Bwrdd Ymddiriedolwyr. Bydd staff rhanbarthol a gwirfoddolwyr lleol yn ymuno â ni ar y diwrnod hefyd
Bydd yr hyn a ddywedwch wrthym yn helpu i lunio ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol, yn lleol ac yn genedlaethol.
Edrychwn ymlaen at cwrdd a chi
Tanya Curry
Prif Weithredwy Cymdeithas MND
Y rhaglen
Mae pob Sioe Deithiol Ranbarthol wedi'i theilwra i'r diddordebau lleol a materion sy'n effeithio ar bobl ag MND. Bydd mynychwyr yn clywed am ein gwaith ledled Cymru a datblygiadau mewn technolegau newydd a chymhorthion cyfathrebu i gefnogi pobl sy'n byw gydag MND. Byddwch hefyd yn clywed gan berson lleol ag MND a gofalwr lleol am gymorth ymarferol arall sydd ar gael ochr yn ochr ag amrywiaeth o ddarparwyr gwasanaethau lleol a fydd yn bresenno.
Byddwch yn cael y cyfle i helpu i ddylanwadu a siapio gwaith y Gymdeithas yn symud ymlaen a chwrdd ag eraill ar eu taith MND
Beth sydd angen i chi gwybod
Costau
Nid oes cost i fynychu ac mae parcio am ddim ar gael. Bydd lluniaeth yn cael ei weini yn ystod y dydd.
Cyfleusterau i bobl ag MND
Mae'r Tîm Cynadleddau a Digwyddiadau yn dewis lleoliadau yn ofalus i sicrhau eu bod yn gwbl hygyrch ac yn cynnig gwerth arian os penderfynwch aros dros nos. I'r rhai sydd angen llety i fynychu'r Sioe Deithiol, bydd y Gymdeithas yn talu'r gost i bobl sy'n byw gydag MND a'u gofalwr fynychu. Rydym ni yma i helpu gyda threfniadau, rhowch wybod i ni beth allwn ni ei wneud.
Gofynion dietegol
Rhowch wybod i'r tîm Cynadleddau a Digwyddiadau am unrhyw ofynion pan fyddwch yn cofrestru a byddwn yn sicrhau darperir ar gyfer eich anghenion.
Teithio
Byddwn yn anfon cyfarwyddiadau teithio pan fyddwch yn cofrestru ond os oes gennych unrhyw gwestiynau am drefniadau teithio, cysylltwch â'r tîm Cynadleddau a Digwyddiadau byddwn yn sicrhau darperir ar gyfer eich anghenion.
MND Cyswllt
Os ydych yn cael eich effeithio gan MND a bod gennych unrhyw bryderion ynghylch mynychu ein Sioe Deithiol Ranbarthol, cysylltwch â llinell gymorth MND Connect am cyngor
0808 802 6262
[email protected]
Archebwch eich lle nawr
Gallwch gofrestru i fynychu yn unrhyw un o’r ffyrdd canlynol:
rchebwch eich lle nawr
E-bost: [email protected]
Ffôn: 01604 611844